Pwy Ydyn Ni?
Cafodd WIMCS (Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru) ei sefydlu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Beth Yw Ein Hamcanion?
Ein nod yw gwella sefyllfa mathemateg a chyfrifiadura yng Nghymru, hyrwyddo cysylltiadau â diwydiant, masnach a busnes, creu cyllid ymchwil sylweddol a chynnig fforwm ar gyfer addysg ac ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r gwyddorau mathemategol.
Cliciwch ar y cysylltau i ganfod mwy am weithgareddau ein haelodau a’r digwyddiadau a drefnwn.
Rydym yn datblygu fersiwn Cymraeg o’r wefan hon.
Rydym yn croesawu cyfraniadau yn enwedig darluniau gyda gogwydd mathemategol y gallwn ni eu harddangos (mae’n rhaid iddynt beidio bod â hawlfraint).
Bydd Cyfarwyddwr WIMCS yn dyfarnu gwobr o £25 am ei hoff lun yn 2008 a gyflwynir gan rywun sydd o hyd yn yr ysgol. Ebostiwch geisiadau at administrator@wimcs.ac.uk
